Lleoliad gwaith: LLys Elian
Mae Llys Elian yn gartref gofal preswyl sy’n darparu cymorth 24 awr i bobl hŷn sydd yn byw gyda dementia.
Rydym yn dymuno penodi cogydd cynorthwyol ymroddedig a brwdfrydig, a fydd yn cynorthwyo gyda phob agwedd o arlwyo ar gyfer y Cartref Preswyl, y ganolfan dydd, ac fydd yn dirprwyo dros y cogydd yn ystod cyfnodau o absenoldeb.
Bydd angen i deilydd y swydd gynorthwyo wrth gynllunio bwydlenni er mwyn cwrdd ag anghenion dietegol unigolion, darparu deiet cytbwys, ystyried safon ac argaeledd cynhwysion er mwyn gwneud yn fawr o bob adnodd.
Bydd disgwyl i chi weithio mewn tîm i sicrhau fod prydau yn cael eu cynhyrchu i safon uchel a bod ceginau, mannau cadw bwyd ac offer yn lân ac yn cael eu cadw mewn cyflwr da, a sicrhau safon uchel o lanweithdra, a glynu wrth y polisi iechyd a diogelwch ac arfer da.
Rhoddir hyfforddiant a bydd rhai oriau gwaith yn dennu tâl uwch fesul awr. Mae cyfle i weithio oriau ychwanegol.
Mae sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Saesneg yn hanfodol, tra byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn effeithiol yn ddymunol.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Christine Williams,Rheolwr (01492577749, Christine.williams@conwy,gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.
Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.