Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Yng Ngofal Cymdeithasol rydym yn aml yn prynu gwasanaethau i gefnogi ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn yng Nghonwy gan asiantaethau gofal preifat ac elusennau cofrestredig. Mae Safonau Ansawdd Gofal Cymdeithasol yn gyfrifol am sicrhau bod yr asiantaethau hyn yn darparu’r safonau ac ansawdd gorau yr ydym yn eu disgwyl.
Bydd y rôl ddiddorol a boddhaus hon yn gweld yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflawni ymweliadau monitro i gartrefi preswyl a nyrsio, asiantaethau gofal cartref, prosiectau byw â chymorth 24 awr ar gyfer pobl ag anableddau a phrosiectau rhannu bywydau oedolion. Disgwylir i chi lunio adroddiadau yn seiliedig ar eich arsylwadau o amgylchedd y cartref ac arferion staff, sgyrsiau gyda staff a chleientiaid ac adolygiadau pen desg o ddogfennaeth, megis cynlluniau gofal ac asesiadau risg. Byddwn bob amser yn ystyried diogelwch ein pobl fwyaf diamddiffyn ac yn gallu gwneud argymhellion i’r asiantaeth gofal pan fyddwch yn teimlo y gallent wella safon gwasanaeth.
Bydd y rôl yn secondiad tymor penodol am 6 mis i gyflenwi swydd swyddog presennol wrth iddynt gyflawni lleoliad myfyriwr rhwng Chwefror a Gorffennaf 2025. Mae’n gyfle gwych i chi roi cynnig ar rôl ac i adeiladu profiad.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu gweithio ar eu menter eu hunain, gyda gwybodaeth ymarferol dda o ofal a lleoliadau gofal ac yn barod i herio darparwyr gofal pan fo angen gwella safonau. Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth am RISCA a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â ffordd eu hunain o gludiant a gallu teithio ar draws Sir Conwy. Efallai bydd y gallu i gyflawni dyletswyddau tu allan i oriau gweithio arferol yn ofynnol ar adegau.
Mae’r gallu i sgwrsio gydag ystod eang o bobl ac ymateb i gyfatebiaeth syml yn Gymraeg yn ddymunol ac yn Saesneg yn hanfodol.
O ganlyniad i natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nicola Eccles Rheolwr Tîm 01492 575350 Nicola.eccles1@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.