Lleoliad gwaith: Coed Pella
Ydych chi’n weithiwr proffesiynol blaengar, talentog ac ymroddgar a fyddai’n gweithio’n galed i fodloni anghenion ein plant sy’n derbyn gofal?
Mae’r Tîm Sefydlogrwydd a Llwybrau angen Rheolwr Tîm deinamig a threfnus sy’n gallu ac yn barod i gefnogi gweithwyr cymdeithasol i reoli gwaith achosion cymhleth yn effeithiol a chyfrannu at ddatblygiadau yn y gwasanaeth ac arloesi.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn allweddol i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal. Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi tîm o 9 gweithiwr cymdeithasol gydag 1 Rheolwr Tîm arall cyfwerth â llawn amser. Monitro rhwymedigaethau statudol y tîm ac annog safonau i gyflawni arfer gorau fydd prif amcanion y Rheolwyr Tîm ar y cyd â chefnogi’r tîm i gyflawni swyddogaethau statudol a rheoli llwythi achosion.
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i chi fod â gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster gwaith cymdeithasol cyfwerth, Tystysgrif Cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol (CQSW) neu Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol (DipSW) gydag isafswm o 3 blynedd o brofiad ar ôl dod yn gymwys a gwybodaeth dda am ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd angen i chi allu dangos profiad o oruchwylio. Byddwch yn rhannu’r swydd gyda Rheolwr Tîm profiadol sydd yn ei swydd ers peth amser.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Catherine Mackenzie, Rheolwr Gwasanaeth (01492 577778 / catherine.mackenzie@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.