Lleoliad gwaith: Llys Elian, Bae Colwyn
Mae Llys Elian yn gartref preswyl 27 gwely ar gyfer pobl hyn sydd yn byw gyda Dementia, mae yna dri thŷ ar gyfer byw ynddynt yn barhaol ac un tŷ gofal seibiant a chanolfan ddydd.
Os yr ydych chi yn empathetig, ac yn angerddol am ddarparu gofal rhagorol – mi fuaswn yn hoffi clywed gannddoch oherwydd rydym yn dymuno penodi unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i weithio yn ein cartref preswyl.
Eich gwaith fydd cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion ar bob agwedd o dasgau bywyd ddydd i ddydd fel gofal personol, cynnal annibyniaeth, rhoi meddyginiaeth, a diddordebau a sgiliau bywyd.
Rhoddir hyfforddiant a bydd rhai oriau gwaith yn dennu tâl uwch fesul awr. Mae cyfle i weithio oriau ychwanegol.
Bydd disgwyl i chi fod yn gyfathrebwr da a byddwch yn cyfathrebu gydag amryw o bobl or unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth, teuluoedd a ffrindiau yn ogystal â gweithwyr gofal proffesiynol eraill fel Meddygon Teulu a Gweithwyr Cymdeithasol.
Bydd disgwyl i chi weithio mewn tîm i gynnal a gwella lles unigolion – rhoi gwybod i staff uwch a rheolwyr am unrhyw bryderon.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol; a chyfarthebu yn gyfforddus hefo unigolion yn y Gymraeg, mae’r gallu i ysgrifennu’n Saesneg yn hanfodol ac yn ddymunol yn Gymraeg.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Christine Williams, Rheolwr (01492 577749 / Christine.williams@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn desirable ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.