Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae’r Swyddog Cefnogi Systemau yn aelod o’r Tîm Systemau Busnes sy’n gyfrifol am gefnogi, gweinyddu a datblygu nifer o systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan yr Adran Gofal Cymdeithasol ac Addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Ymhlith dyletswyddau Swyddogion Cefnogi Systemau mae:• Darparu hyfforddiant cynefino i aelodau newydd o staff.• Hyfforddiant parhaus i staff presennol, yn cynnwys cyflwyno swyddogaethau newydd.• Gweinyddu’r system gan gynnwys staffio desg gymorth y tîm ar sail rota. • Cynorthwyo gyda gwaith dilysu ac archwilio.• Cynorthwyo’r tîm i ddeall gofynion busnes a thechnegol yr adran i alluogi datblygiad parhaus ei systemau gwybodaeth cleientiaid.
Fe gewch eich mentora a’ch cefnogi’n llwyr gan eich cydweithwyr i ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau gan wneud pob diwrnod yn wahanol ac yn ddiddorol.
Un o fanteision y swydd hon yw’r dull gweithio hybrid, sy’n golygu cydbwysedd rhwng gweithio gartref ac yn yr adeilad newydd sbon ym Mae Colwyn.
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd a gallwn gynnig ystod o drefniadau gweithio’n hyblyg y gallwn eu trafod yn y cyfweliad. Cymrwch olwg ar y rhestr o gyfrifoldebau a chymwysterau yn y swydd-ddisgrifiad a’r manylion am yr unigolyn. Er mai hon yw ein rhestr ddelfrydol, byddwn yn barod i’ch ystyried os byddwch yn gallu dangos digon o brofiad, talent a menter.
Os hoffech sgwrs anffurfiol i drafod a yw’r swydd hon yn addas i chi, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill am y swydd, cysylltwch â Robert Owen, ein Rheolwr Systemau Busnes un ai dros y ffôn ar (01492) 575644 neu drwy e-bost robert.owen@conwy.gov.uk
Peidiwch â cholli’r cyfle i ddechrau swydd newydd!
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.