Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Rydym yn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Lleoliadau a Chomisiynu ar sail barhaol.
Mae’r Swyddog Lleoliadau a Chomisiynu wedi'i leoli o fewn y Gwasanaeth Maethu yng Nghonwy. Derbynnir atgyfeiriadau gan weithwyr cymdeithasol o fewn y timau gofal plant sydd angen lleoliadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal. Bydd angen i chi gyfateb anghenion y plentyn/ pobl ifanc gyda lleoliad o safon uchel sy'n gallu darparu'r gofal gorau a sicrhau'r canlyniad gorau ar gyfer y plentyn neu berson ifanc.
Bydd y rôl yn cynnwys gwneud ystod o leoliadau o dan oruchwyliaeth y rheolwr tîm ar gyfer Maethu. Bydd yr ystod o leoliadau yn cynnwys lleoliadau Maethu mewnol, Asiantaethau Maethu Annibynnol, lleoliadau preswyl, anghenion lleoli penodol fel Rhiant a Phlentyn, Plant ag Anableddau, lleoliadau Diogel a Remand. Bydd angen i chi gysylltu, cyd-drafod a chyfathrebu gyda phawb dan sylw o ran comisiynu lleoliad.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda'r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant a’r Ganolfan Gomisiynu. Gyda'r gallu i weithio mewn modd rhagweithiol, gan sicrhau sensitifrwydd a chyfrinachedd.
Bydd deiliad y swydd yn hyblyg ac yn gweithio tuag at welliant parhaus o ddarparu gwasanaethau a pherfformiad y tîm. Byddwch yn cael cynnig goruchwyliaeth ac arweiniad proffesiynol, ynghyd â chynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu pellach trwy'r strategaeth gweithlu a hyfforddiant a ddarperir gan Gonwy.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Alison Maclean Rheolwr Tim 01492575111 Alison.maclean@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.