Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Ydych chi’n weithiwr proffesiynol blaengar, talentog ac ymroddedig, gydag agwedd rhagweithiol mewn bodloni anghenion teuluoedd a phlant tra’n arwain tîm ymroddgar.
Mae’r Tîm Diogelu a Chyfreithiol angen Rheolwr Tîm deinamig a threfnus sydd yn fodlon, ac sy’n gallu cefnogi gweithwyr cymdeithasol i reoli gwaith achos cymhleth yn effeithiol. Bydd ganddynt wybodaeth dda am Amddiffyn Plant, Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus, Achosion a’r broses Fabwysiadu tra’n bodloni anghenion plant sy'n derbyn gofal yn ystod y cyfnod pontio a chynllunio hirdymor. Byddant yn cyfrannu at ddatblygiadau ac arloesedd yn y gwasanaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl bwysig wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a theuluoedd allai fod yn wynebu argyfwng. Bydd y swydd yn golygu cefnogi tîm o 8 gweithiwr cymdeithasol, 2 weithiwr FIT ac 1 Swyddog ar Ddyletswydd ochr yn ochr â Rheolwr Tîm arall. Fe fyddwch chi’n monitro’r rhwymedigaethau statudol y tîm yn effeithiol ac yn symud safonau yn eu blaenau i gyflawni arfer gorau.
I fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i chi feddu ar radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster gwaith cymdeithasol cyfwerth, CQSW neu DipSW gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso gyda gwybodaeth dda o ddeddfwriaeth berthnasol. Fe fydd gofyn i chi arddangos profiad o oruchwylio ac ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar eich cyfer chi a’ch tîm.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Angela Longman, Rheolwr Adain (01492 575148 / angela.longman@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.