Lleoliad gwaith: Llys Elian
Mae Llys Elian yn gartref preswyl 27 gwely ar gyfer pobl hyn sydd yn byw a Dementia, mae yna dri thŷ ar gyfer byw ynddynt yn barhaol ac un tŷ gofal seibiant a chanolfan ddydd.
Rydym yn edrych i apwyntio Gweithiwr Cefnogi/Gyrrwr ar dermau parhaol, gan weithio dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener.
Mae’r rôl yn cynnwys gyrru unigolion yn ôl ac ymlaen i'r ganolfan ddydd. Byddwch yn hyrwyddo ystod o weithgareddau, gan ddarparu cymhelliant ac ysgogiad therapiwtig a chymdeithasol i bobl hŷn â dementia neu gyflyrau sy'n gysylltiedig â dementia
Bydd y rôl hefyd fydd cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion gyda phob agwedd o dasgau bywyd o ddydd i ddydd fel gofal personol, a chynnal annibyniaeth.
Bydd disgwyl i chi fod yn gyfathrebwr da a byddwch yn cyfathrebu gydag amryw o bobl o unigolion, teuluoedd a ffrindiau yn ogystal â gweithwyr gofal proffesiynol eraill fel Meddygon Teulu a Gweithwyr Cymdeithasol.
Bydd disgwyl i chi weithio mewn tîm i gynnal a gwella lles unigolion – rhoi gwybod i staff uwch a rheolwyr am unrhyw bryderon.
Rhoddir hyfforddiant a mae cyfle i weithio oriau ychwanegol.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn empathetig, ac yn angerddol am ddarparu gofal rhagorol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol ac mae’r gallu i sgwrsio’n gartrefol yn Gymraeg yn hanfodol.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Meinir Roberts, Rheolwr (01492 577749 / Meinir.roberts@conwy,gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.