Lleoliad gwaith: Coed Pella / Gweithio'n hybrid
Yn dilyn datblygiadau gwasanaeth rydym yn ceisio Goruchwyliwr Cludiant o fewn y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Addysg
Y rôl:Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, rydym eisiau i chi ymuno ag ymrwymiad gwasanaeth i ddarparu gwasanaeth cludiant dibynadwy a diogel.
Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:- Arwain a rheoli Tîm Cludiant o yrwyr a chynorthwywyr teithwyr - Gweithredu dyletswyddau trwydded Adran 19 - Gwerthuso atgyfeiriadau ar gyfer darpariaeth cludiant a rheoli llwybrau teithio- Hybu rhagoriaeth mewn arferion a diwylliant o gyfathrebu’n agored- Cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch a rheoli risg
Amdanoch chi:Fe fydd angen i chi ddarparu gwasanaeth cludiant addas, dibynadwy a chyson i ddiwallu cyfrifoldebau statudol ar gyfer pobl sydd wedi’u hasesu fel rhai sydd angen gofal a chefnogaeth gan yr Adran.
Mae hon yn rôl a fydd yn addas os gallwch ddangos eich bod yn unigolyn trefnus, llawn ysgogiad, gyda llygad am fanylder a diddordeb mewn datblygu mentrau sy’n galluogi’r adran i ddarparu gwasanaethau effeithlon i bobl yng Nghonwy.
Fe fyddwch yn drefnus, yn gallu cyflawni ymchwil deddfwriaethol a dangos ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel.
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd, a gallwn gynnig amryw o drefniadau gweithio’n hyblyg, gan gynnwys dull cyfunol o weithio gartref ac mewn adeilad swyddfa o’r radd flaenaf ym Mae Colwyn, y gellir eu trafod yn y cyfweliad.
Buddion:- Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol.- Proses gyflwyno lawn pan fyddwch yn dechrau yn y rôl- Cefnogaeth reolaidd a goruchwyliaeth gan eich rheolwr- Mynediad at hyfforddiant drwy raglenni hyfforddi Gofal Cymdeithasol a rhaglenni hyfforddi Corfforaethol; byddwch yn cael eich annog i ddatblygu a dysgu gyda ni.
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff sy’n cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, Beicio i’r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gostyngiadau a llawer mwy.
Siaradwch â ni:Hoffem gael sgwrs anffurfiol gyda chi os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu er mwyn i chi gael dod i’n hadnabod ni a’r rôl yn well, ffoniwch Dawn Meek, Rheolwr Gwasanaeth – Perfformiad Busnes a Chyllid, 01492 575750 dawn.meek@conwy.gov.uk neu,Chris Phillips, Rheolwr Adain– Perfformiad a Chyllid, 01492 574734 chris.phillips1@conwy.gov.uk
Neu, Os yw’r swydd a’r lleoliad at eich dant chi, cliciwch i wneud cais rŵan.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.