Lleoliad gwaith: Yn y gymuned
Beth mae’r swydd yn ei olygu?
Dan gyfarwyddyd Rheolwr y Tîm neu’r Dirprwy Reolwr, byddwch yn gyfrifol am weithredu busnes garddwriaethol prysur yn feunyddiol a chyflawni amrywiaeth helaeth o dasgau cysylltiedig, gan gynnwys ymdrin â chwsmeriaid a gwerthu nwyddau.
Byddwch yn arwain wrth gefnogi pobl ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol i fagu’r sgiliau angenrheidiol i wneud cynnydd â gweithio am gyflog neu wirfoddoli.
Byddwch yn gallu cynllunio a chynnal gweithgareddau llawn dychymyg a fydd hefyd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau.
Bydd arnoch chi angen deall fod rhai pobl yn cyfathrebu eu teimladau drwy eu hymddygiad. Rydym yn chwilio am y rhai sydd ag agwedd ‘gallu gwneud’ sy’n gallu addasu eu sgiliau yn ôl gwahanol sefyllfaoedd.
Bydd y dyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo unigolion na allant fod yn gwbl gyfrifol am eu hanghenion personol eu hunain a gall hynny gynnwys codi a chario.
Mae’n rhaid i Weithiwr Cymorth Gwaith fedru dangos y gallu i fod yn greadigol a meddwl yn agored wrth gynorthwyo pobl i gyflawni eu nodau a helpu’r tîm i ddarparu amgylchedd diogel a chynhyrchiol i bobl ddysgu sgiliau newydd.
Mae’n rhaid bod yn wydn wrth weithio yn y sector gofal. Mae pob un ohonom yn cael dyddiau da a dyddiau gwael, ac felly mae gallu aros yn ddigynnwrf a chefnogol yn hanfodol.
Mae’r swydd yn gofyn am weithio ar benwythnosau a Gwyliau Banc ond fe weithiwn gyda chi i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Byddwch yn cwblhau rhaglen sefydlu ac yn gallu gwneud hyfforddiant arbenigol a fydd yn rhoi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch er mwyn i chi roi’r cyfleoedd gorau posibl i’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.
Os ydych chi’n chwilio am yrfa werth chweil sy’n dod â boddhad ac eisiau gwybod mwy, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Mike Roberts, Rheolwr Tîm, 01492 577659 Roberts.mike@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’n ddymunol gallu sgwrsio’n rhwydd â phobl yn Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.