Lleoliad gwaith: Llys Elian, Bae Colwyn
Mae Llys Elian yn gartref preswyl ar gyfer pobl hŷn gyda Dementia, mae yna dri thŷ ar gyfer byw ynddynt yn barhaol ac un tŷ gofal seibiant a chanolfan ddydd.
Rydym eisiau penodi cymhorthydd gweinyddol ar sail parhaol.
Dyma gyfle cyffrous a heriol i’r person cywir ymuno â’r tîm prysur a deinamig sy’n cefnogi Gwasanaethau Pobl Hŷn Conwy.
Bydd y cytundeb 37 awr yn cynnwys gweithio dydd Llun tan ddydd Gwener. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau gweinyddu a chyfathrebu ardderchog, sgiliau trefnu da; a bydd yn gallu addasu ac yn gallu dangos profiad o weithredu ar y lefel hon. Hefyd, os am gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, bydd yn rhaid i chi feddu ar ddidwylledd personol, bod yn ddigynnwrf dan bwysau, a bod â sylw agos i fanylion.
Am hynny, byddwch yn derbyn:
Bydd pob diwrnod yn wahanol - byddwch yn cyfarch pobl, trefnu cyfarfodydd ac ystafelloedd cyfarfod, rheoli galwadau a negeseuon e-bost, cadw cofnodion mewn cyfarfodydd, delio gyda dyletswyddau swyddfa gan gynnwys mewnbynnu data, rheoli systemau data, prosesu amserlenni, paratoi llythyrau a llawer mwy.
Gan fod y tîm yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, mae’r gallu i gyfathrebu a sgwrsio yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.Mae hwn yn gyfle gwych felly os ydych yn teimlo fod y sgiliau a’r profiad cywir gennych, gwnewch gais. Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.
Bydd gofyn i chi gyflawni gwiriad Datgelu gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Meinir Roberts, Rheolwr Adran 01492577773, meinir.roberts@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.