Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Asesu a Chymorth
Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Diogelu a Chyfreithiol
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Rydym yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal a dymunwn ichi ymuno â’n tîm clos, cyfeillgar i arwain y gwaith o ddatblygu mentrau sy’n ein galluogi i ddarparu gwasanaethau i bobl Conwy.
Mae un swydd yn rhan o'r Tîm Asesu a Chymorth. Mae’r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chefnogaeth, plant sydd angen eu hamddiffyn, Plant Dan Ofal a phlant sy'n agored i Achosion Cyfreithiol Cyhoeddus a Phreifat.
Mae'r ail rôl wedi'i lleoli o fewn y Tîm Diogelu a Chyfreithiol. Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i blant sydd angen eu hamddiffyn, Plant sy'n Derbyn Gofal, plant sy'n destun Achosion Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat a phlant sydd wedi’u lleoli i’w mabwysiadu. Cefnogir y tîm gan Gynghorwyr Cyfreithiol.
Mae’r tîm wedi ymrwymo i gynyddu safonau cefnogaeth i Blant a’u Teuluoedd.
Blaenoriaeth allweddol i’r tîm yw lleihau nifer y plant sy’n dod dan ofal. Cewch eich cefnogi gan adain hynod ymroddedig o weithwyr cymdeithasol, wedi’u cefnogi gan Dîm Ymyriadau Teuluol sydd wedi ennill gwobrau a’r Tîm Cymorth i Deuluoedd sydd wedi ennill gwobrau.
Cewch eich cefnogi yn eich rôl trwy oruchwyliaeth reolaidd, adolygiadau datblygu personol a chyfleoedd datblygu gyrfa drwy Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus ar gyfer swyddi parhaol.
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd, a gallwn gynnig amryw o drefniadau gweithio’n hyblyg, gan gynnwys oriau cywasgedig, dull cyfunol o weithio gartref ac mewn adeilad swyddfa o’r radd flaenaf ym Mae Colwyn, y gellir eu trafod yn y cyfweliad.
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff, yn cynnwys ceir aberthu cyflog, Beicio i’r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gostyngiadau a llawer mwy.
Os yw’r swydd a’r lleoliad at eich dant chi, cysylltwch â Mark Devereux i gael sgwrs anffurfiol am y swyddi sydd ar gael yn AST ac Angela Longman am y swyddi sydd ar gael yn y Tîm Diogelu a Chyfreithiol.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Mark Devereux, Rheolwr adain - Tîm Asesu a Chymorth / 01492 575148 / Mark.devereux@conwy.gov.uk
Angela Longman, Rheolwr adain - Tîm Diogelu a Chyfreithiol / 01492 575259 / Angela.longman@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.