Lleoliad gwaith: Coed Pella
Dros Gyfnod Mamolaeth
Mae swydd blwyddyn ar gael fel Rheolwr Adain Adnoddau yn y Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain timau sefydlogrwydd a llwybrau, gan sicrhau fod plant yn aros mewn gofal am gyn lleied â phosib.
Disgwylir iddynt arwain wrth wreiddio dull sicrwydd ansawdd i bob lleoliad cartref gofal a chefnogi eu cydweithiwr i gefnogi gwasanaethau gofal maeth pan fo angen. Mae gan Gonwy raglen drawsnewid gyffrous sy’n cefnogi datblygiad cartrefi gofal therapiwtig i blant gan gynnig sefydlogrwydd iddynt o fewn eu hardal leol a’u galluogi i gyflawni eu deilliannau personol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn ystod blwyddyn allweddol i sicrhau bod y weledigaeth hon yn dwyn ffrwyth.
Cysylltwch â Catherine Mackenzie i gael mwy o fanylion
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Catherine Mackenzie, Rheolwr Gwasaneath (01492 577778 /Catherine.mackenzie@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.