Lleoliad gwaith: Gorllewin Conwy
Mae gennym gyfle gwych i bobl sydd â phrofiad blaenorol o ddarparu cefnogaeth yn y cartref i symud eu gyrfa ymlaen drwy weithio ar lefel goruchwylio fel rhan o’r tîm rheoli.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd i weithio fel rhan o'n tîm yng Gorllewin Conwy, yn darparu gwasanaethau cartref i oedolion.
Byddwch yn cynorthwyo’r Rheolwr Tim drwy gydlynu staff cymorth cymunedol mewn ffordd effeithiol ac effeithlon, er enghraifft drwy drefnu gwaith, goruchwylio staff, cwblhau asesiadau codi a symud yn gorfforol a chwblhau cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gyda unigolion a’u cynrychiolwyr.
Byddwch yn cydlynu tîm o staff sydd yn cynnig cefnogaeth hyblyg i unigolion a’u gofalwyr yn eu cartrefi eu hunain neu leoliadau cymunedol eraill i wneud y mwyaf o’u hannibyniaeth a gwella eu hiechyd a’u lles mewn modd cydlynol.
Mae sgiliau cyfathrebu a llythrennedd gwych a’r gallu i weithio gydag amrywiaeth o systemau TG yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Byddai cyfleoedd i gymryd rhan hyfforddiant amrywiol er mwyn galluogi chi i gwblhau’r rôl fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, er enghraifft drwy gyflawni'r BTEC mewn darparu cymorthyddion ac offer bach, hyfforddiant rheoli, hyfforddiant i ddarparu Gofal sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau a Chefnogaeth fel y'i diffinnir yn y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg â phobl hŷn am eu hiechyd a’u lles yn ddymunol.
Mae'r gallu i ysgrifennu yn Gymraeg yn ddymunol, a'r gallu i ysgrifennu yn Saesneg yn hanfodol.
Mae'r tîm cefnogaeth gymunedol yn darparu gwasanaethau 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym felly yn chwilio am unigolion sydd ag agwedd hyblyg, ac sy’n fodlon gweithio oriau anghymdeithasol weithiau, er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â:- Sophie Gibson, Team Manager on 01492 574655.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio
Bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sophie Gibson, Rheolwr Cefnogi Cymunedol, 01492 574655 Sophie.gibson@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.