Lleoliad gwaith: Coed Pella / Gweithio Hybrid
Ydych chi’n weithiwr proffesiynol gweinyddol a busnes sydd eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa?
Oherwydd cyfleoedd datblygu o fewn y Gwasanaeth Busnes, Perfformiad a Chyllid rydym yn chwilio am Uwch Swyddog: Cymorth Rheoli newydd ac fe allai’r rôl hon fod yn ddelfrydol i chi!
Y rôl:
Rydym yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal a dymunwn ichi ymuno â’n tîm clos, cyfeillgar i arwain a chanolbwyntio ar y gwaith o ddatblygu mentrau sy’n ein galluogi i ddarparu gwasanaethau cymorth i bobl yng Nghonwy a chwsmeriaid mewnol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli’r Tîm Cymorth Rheoli Gofal Cymdeithasol ac Addysg, sy’n cynnwys cymorth busnes ysgrifenyddol a gweinyddol i uwch reolwyr yr adran, i sicrhau y darperir lefel uchel o wasanaeth yn fewnol ac yn allanol.
Mae hon yn rôl newydd a fydd yn rhoi cyfle i chi weithio ym mhob maes y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg. Mae’n bosib i chi ddatblgu dealltwriaeth o’r adran yn y gwaith os nad oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o’r sector.
Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
Amdanoch chi:
Byddwch yn greadigol, rhagweithiol, yn flaengar a chyda’r gallu i greu syniadau.
Buddion:
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd, a gallwn gynnig amryw o drefniadau gweithio’n hyblyg, gan gynnwys dull cyfunol o weithio gartref ac mewn adeilad swyddfa o’r radd flaenaf ym Mae Colwyn, y gellir eu trafod yn y cyfweliad.
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff sy’n cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, Beicio i’r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gwobrau gwasanaeth hir, gostyngiadau a llawer mwy.
Siaradwch â ni:
Hoffem gael sgwrs anffurfiol os oes gennych unrhyw gwestiynau neu er mwyn i chi allu dod i’n hadnabod ni a’r rôl yn well, ffoniwch Adele Evans, Cydlynydd Busnes am sgwrs sydyn.E-bost: adele.evans1@conwy.gov.uk Rhif ffôn: 01492 575402Neu
Os yw’r swydd a’r lleoliad at eich dant chi, cliciwch i wneud cais rŵan.
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.