Lleoliad gwaith: Bwthyn y Ddôl
Amdanom ni:Ym Mwthyn y Ddôl, credwn ei bod yn fraint fawr cael bod yn rhan o fywyd plentyn. Mae ein Gweithwyr Preswyl yn darparu cymorth a gofal cyson am 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, gan helpu’r plant i fyw bywyd bob dydd a dod i ddeall y byd o’u cwmpas.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud:Byddwch yn gweithio fel rhan o’r tîm i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n cael seibiant byr ac asesiadau yng Nghonwy yn cael y lefel a’r safon briodol o ofal a chymorth. Bydd y gofal a’r cymorth hwnnw’n seiliedig ar helpu plant i fyw eu bywydau’n wahanol i’r ffordd y maen nhw’n ei fyw o ddydd i ddydd, drwy eu cynnwys mewn materion a phenderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, yn ogystal â helpu plant a theuluoedd i aros gyda’i gilydd.
Fel Dirprwy Reolwr Uned, byddwch yn helpu’r Rheolwr Preswyl i reoli canolfan asesu sydd wedi’i chofrestru ag AGC o ddydd i ddydd, gan arwain gwaith rheoli a datblygu tîm Therapiwtig Amlddisgyblaeth fel rhan o’r ganolfan asesu ac ymyrraeth.
Bydd disgwyl i chi gymryd rôl arweiniol wrth ddatblygu cynlluniau wedi’u haddasu’n bersonol ‘ar gyfer’ a ‘gyda’ plant/pobl ifanc, gan fynd ati i gynnig gofal neu gymorth yn y funud sy’n bodloni’r canlyniadau a nodwyd ar gyfer unigolion ac sy’n dangos parch amlwg at eu hymreolaeth, eu hannibyniaeth, eu gwerthoedd personol a’u hurddas.
Bydd disgwyl i chi ddarparu cymorth i ddatblygu’r gweithlu a chynnig cyfleoedd ymarfer arloesol i fanteisio i’r eithaf ar sgiliau a gwytnwch y staff wrth ddarparu gwasanaeth therapiwtig pwrpasol sy’n galluogi plant a phobl ifanc i wneud synnwyr o’u byd a’u profiadau o ddydd i ddydd.
Yr hyn rydym ni’n chwilio amdano:• Bydd gennych chi gymhwyster QCF Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth.• Bydd gennych chi o leiaf ddwy flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad preswyl i blant a phrofiad sylweddol o weithio gyda phlant/teuluoedd mewn modd sydd wedi’i gynllunio.• Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth o’r Ddeddf Plant, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. • Profiad o arwain a goruchwylio staff trwy osod esiampl dda i bob aelod o’r tîm o ran ymddygiad yn y gweithle ac o ran trefn, llwyth gwaith, perfformiad a chreu a chynnal diwylliant diogel, dymunol a llawn ymddiriedaeth yn y gweithle.• Gallu gweithio’n greadigol ac yn arloesol gyda’r tîm o staff preswyl i gyflawni’r canlyniadau gorau posib i’r plant.• Profiad o hyfforddi, mentora ac arwain tîm o staff o fewn model gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio dulliau therapiwtig sy’n ystyriol o ymlyniad a thrawma i helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’n oedolion iach ym mhob maes, gan gynnwys eu hiechyd corfforol, emosiynol, seicolegol a gweithredol.• Gallu rheoli sefyllfaoedd heriol a chefnogi’r tîm o staff wrth iddyn nhw archwilio strategaethau arloesol i fynd i’r afael ag anhwylder emosiynol.• Gallu gosod esiampl dda o weithio ar y cyd mewn partneriaeth yn seiliedig ar ddealltwriaeth dda o ddatblygiad arferol yn ystod plentyndod, straen trawmatig, ymlyniad, risg a gwytnwch. Gwneir hyn gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau a’r ddarpariaeth mewn gwasanaeth a reoleiddir dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.Profiad ac arbenigedd mewn annog plant i gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio eu gofal eu hunain a lle bo’n briodol, cynnwys teuluoedd yn y gwaith o gynllunio gofal ar gyfer eu plant, a meithrin/cynnal perthnasoedd dwy ffordd ar sail ymddiriedaeth, didwylledd, gonestrwydd a pharch o fewn ffiniau’r rôl.
Gwybodaeth ychwanegol:- Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Sut i wneud cais:
Os ydych chi’n frwd dros annog a chefnogi plant i gyrraedd eu llawn botensial, ac yn rhannu ein gwerthoedd o fod yn hyderus, yn gynnes ac yn onest, fe fyddem yn eich annog i wneud cais. Hyd yn oed os nad ydych chi’n bodloni’r holl feini prawf, ond yn credu y gallwch chi wneud argraff gadarnhaol, fe hoffem ni glywed gennych chi.
Ymunwch â ni ym Mwthyn y Ddôl i fod yn rhan o dîm sydd wir yn gwneud gwahaniaeth, a manteisio ar y cyfle i ddatblygu eich gyrfa yn y maes gofal preswyl i blant.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nick Appleton Rheolwr Preswyl 07714171724 Nick.appleton1@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.