Lleoliad gwaith: Bae Colwyn / Llanfairfechan
Mae Gwasanaeth Teleofal Conwy yn cefnogi amrywiaeth o unigolion i aros yn ddiogel ac yn annibynnol drwy ddarparu a gosod technoleg bwrpasol yn eu cartrefi, megis systemau larwm personol neu synwyryddion. Wedi’ch lleoli o fewn yr Adain Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth byddwch yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer tîm sy’n rheoli llif gwaith cyflym drwy
Gellir dysgu am ofal cymdeithasol wrth wneud y gwaith os nad oes gennych brofiad blaenorol.
Amdanoch chi:Gyda’ch gallu profedig i ddilyn prosesau, rydych yn weinyddwr hyderus sy’n ymdrechu bob amser i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
Buddion:
Siaradwch â ni:Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Lindsay Duncalf, Rheolwr Tîm am sgwrs fer, neu ewch ati rŵan i lenwi’r ffurflen gais.
E-bost: Lindsay.Duncalf@conwy.gov.uk Ffôn: 01492 577813
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Lindsay Duncalf Rheolwr Tîm 01492 577813 Lindsay.duncalf@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar swydd hon.
Rydym yn annog ymgeiswyr sy’n rhugl yn y Gymraeg a bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi hefyd i ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas sy’n fodlon ymrwymo i wella eu sgiliau Cymraeg hyd at y safon ofynnol o fewn cyfnod penodol.Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.