Lleoliad gwaith: Bwthyn Y Ddol a Coed Pella
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol profiadol a brwdfrydig weithio fel rhan o Dîm Bwthyn y Ddôl. Mae’r tîm yn ceisio asesu a chefnogi teuluoedd a phobl ifanc sydd â niwroamrywiaeth, wedi profi trawma a/neu drallod yn ystod eu bywydau.
Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn aelod craidd o’r Tîm Amlddisgyblaethol ac yn ymgymryd ag asesiadau arbenigol amrywiol ac yn darparu ymyraethau therapiwtig i bobl ifanc a’u teuluoedd. Bydd y Therapydd Galwedigaethol hefyd yn rhoi arweiniad a chefnogaeth i staff Bwthyn y Ddôl ac yn cyfrannu at ddarparu gwell canlyniadau i’r plant a’u teuluoedd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Joy Dunn, Rheolwr Tîm (01492 576394, Joy.dunn@conwy.gov.uk) ar 01492 576394 neu Nicola Orme nicola.orme@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn Dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.
Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.