Lleoliad gwaith: Coed Pella / Gweithio Hybrid
A ydych chi’n weithiwr gweinyddu busnes proffesiynol yn chwilio am eich cyfle nesaf?
Oherwydd datblygiad gwasanaeth yng Ngwasanaeth Busnes, Perfformiad a Chyllid, yr ydym yn ceisio trefniant rhannu swydd ar gyfer rôl ein Cydlynydd Busnes: Gofal Cymdeithasol / Iechyd a Diogelwch a Chyfleusterau.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu, a chan fod hyn yn drefniant newydd mae’n cael ei gynnig i ddechrau am gyfnod o 6 mis gyda’r bwriad o wneud trefniant parhaol yn dilyn adolygiad. Croesewir datganiadau o ddiddordeb mewn secondiad; bydd yn rhaid i swyddogion mewnol sydd â diddordeb drafod gyda’u rheolwr atebol cyn gwneud cais.
Y Rôl:Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal rydym eisiau i chi ymuno â maes gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar welliant parhaus a chyflwyno darpariaeth cymorth busnes proffesiynol o ansawdd uchel ar gyfer holl dimau Gofal Cymdeithasol.
Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:- Arwain a rheoli Timau Cymorth Busnes- Gwerthuso prosesau busnes gweithredol- Hybu rhagoriaeth mewn arferion a diwylliant o gyfathrebu’n agored- Cydymffurfio â Rheolau Diogelu Data- Rheoli adeiladau a chyfleusterau- Gweithredu fel swyddog cyswllt gwasanaeth ar faterion Iechyd a Diogelwch.
Amdanoch chi:Fe fydd angen i chi ddarparu gwasanaeth medrus, dibynadwy a chyson mewn cysylltiad â chefnogaeth weinyddol i wasanaethau rheng flaen.
Dyma swydd addas i chi os ydych chi’n unigolyn trefnus a brwdfrydig gyda llygad am fanylder a diddordeb mewn datblygu mentrau sy’n galluogi’r adran i ddarparu gwasanaethau i bobl yng Nghonwy.
Byddwch yn greadigol, yn rhagweithiol, yn flaengar a chyda’r gallu i greu syniadau.
Buddion:- Fe fyddwch yn gweithio fel rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol - Cyflwyniad llawn wrth ddechrau yn y rôl - Cefnogaeth a goruchwyliaeth gan eich rheolwr yn rheolaidd - Mynediad at hyfforddiant drwy raglenni hyfforddi Gofal Cymdeithasol a Chorfforaethol, a fe fyddwch yn cael eich annog i ddatblygu a dysgu gyda ni.
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd, a gallwn gynnig amryw o drefniadau gweithio’n hyblyg, gan gynnwys dull cyfunol o weithio gartref ac mewn adeilad swyddfa o’r radd flaenaf ym Mae Colwyn, gellir trafod y rhain yn y cyfweliad.
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff, yn cynnwys ceir aberthu cyflog, Beicio i’r Gwaith, gofal iechyd arian-yn-ôl, gostyngiadau a llawer mwy.
Os yw’r swydd a’r lleoliad at eich dant chi, cliciwch i wneud cais rŵan.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu – bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Byddem wrth ein boddau yn cael sgwrs anffurfiol gyda chi os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu er mwyn i chi ddod i’n hadnabod ni a’r rôl yn well, ffoniwch Dawn Meek, Rheolwr Gwasanaeth – Busnes, Perfformiad a Chyllid, 01492 575750 dawn.meek@conwy.gov.uk neu,Andrew Nixon, Rheolwr Adain – Cymorth Busnes a Gweinyddu, 01492 575587 andrew.nixon1@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.