Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Rydym ni’n frwd dros weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl sydd ag anableddau a’u galluogi i ‘fyw’r bywyd gorau posibl’ drwy ddarparu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. Gwneir hynny drwy roi’r unigolyn yn ganolog i’r holl waith cynllunio cymorth a datblygu strategaethau i’w galluogi i ddatblygu sgiliau ym mhob agwedd o’u bywydau er mwyn rhoi annibyniaeth iddynt fel eu bod yn teimlo’n rhan o’u cymunedau, yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddynt.
Fel rheolwr tîm, byddwch yn gyfrifol am arwain gwaith rheoli a datblygu tîm ar ran y Gwasanaethau Anabledd Integredig.
Un o’r prif feysydd cyfrifoldeb fydd sicrhau eich bod chi’n hyrwyddo ac yn gwerthfawrogi ‘Cefnogaeth Weithredol’, ‘Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol’ a ‘Lleihau Arferion sy’n Cyfyngu’ fel dull canolog o alluogi unigolion i ymgysylltu mwy yn eu bywydau bob dydd; meithrin perthnasoedd cadarn gyda’r rhai o’u cwmpas nhw, datblygu sgiliau byw’n annibynnol a dod yn aelodau gweithredol o’u cymunedau drwy ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Fel Rheolwr Tîm, byddwch yn dangos arweinyddiaeth ymarferol, amlwg a thosturiol, a bydd gofyn i chi: • Reoli darpariaeth cyfrifoldebau gweithredol. • Sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau yn y gwasanaeth rheoledig. • Sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn unol â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. • Darparu data / gwybodaeth am berfformiad a’r gweithlu.
Bydd angen i’r rheolwr tîm ddangos, bod yn fodel rôl a grymuso staff hefyd er mwyn sicrhau: • Eu bod nhw’n rhoi anghenion yr unigolyn yn ganolog i’w gofal, a sicrhau bod ganddyn nhw lais a rheolaeth dros gyrraedd canlyniadau sy’n eu helpu nhw i sicrhau lles. • Bod pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cael eu grymuso i gymryd mwy o ran yn y gwaith o ddylunio a darparu’r gwasanaeth drwy roi systemau cyfathrebu ar waith sy’n benodol i’r unigolyn, a fydd yn rhoi llais amlwg iddyn nhw ar yr hyn sy’n bwysig iddynt.
Bydd disgwyl i chi:• Gymryd cyfrifoldeb dros ddarparu’r gwasanaeth wrth sicrhau bod y cyfleuster seibiant yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau RISCA 2016. • Gweithio gyda’r Rheolwr Adain i weithredu cyfleoedd ar gyfer gwelliannau gwasanaeth sy’n darparu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd wrth ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys casglu adborth gan rai sy’n defnyddio’r gwasanaeth, eu teulu a’u ffrindiau a budd-ddeiliaid perthnasol eraill. • Hyrwyddo safon ymddygiad personol a phroffesiynol uchel iawn wrth gefnogi diwylliant ar draws y gwasanaeth sy’n wirioneddol gynnes, dilys, llawn ymddiriedaeth, gonest, dibynadwy, cyson a gofalgar.• Goruchwylio a chynnig arweiniad yn y gweithle i gydlynwyr a gweithwyr cefnogi a sicrhau eu bod nhw’n gweithio’n ddiogel ac mewn modd sy’n bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan Weithiwr Gofal Cymdeithasol dan God Ymddygiad Gofal Cymdeithasol Cymru. • Sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal o ddydd i ddydd mewn modd sy’n arwain at welliant parhaus yn y gwasanaeth, fel bod ‘pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni popeth y gallan nhw; eu bod yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir; eu bod yn ddiogel ac yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth’. • Llunio a datblygu prosesau goruchwylio ac adolygu sy’n atgyfnerthu ethos gwelliant parhaus yn gyson gan bob aelod o staff.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano gennych chi:• Diploma Lefel 5 FCCh mewn arweinyddiaeth a gofal neu NVQ cyfwerth neu’r gallu i’w cyflawni, er mwyn cynnal cofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. • O leiaf 10 mlynedd o brofiad a gwybodaeth o weithio gyda phobl anabl ar draws oes, gan gynnwys y sawl ag anghenion iechyd cymhleth, diagnosis deuol ac ymddygiad heriol. • O leiaf 5 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn swydd uwch ar gyfer gwasanaeth sy’n cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru. • Gwybodaeth gadarn am gefnogaeth ymddygiad cadarnhaol a’r gallu i gyflawni cymhwyster lefel 4 mewn cefnogaeth ymddygiad cadarnhaol, er mwyn arwain staff ac ymgorffori’r ffordd hon o weithio o fewn y gwasanaeth. • Profiad blaenorol o reoli pobl o ran pob agwedd ar berfformiad a phresenoldeb. • Gwybodaeth dda am Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. • Gwybodaeth gadarn am ddulliau Cefnogaeth Weithredol, Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a gallu eu cynnwys yn arferion y tîm.
Ar hyn o bryd, mae deiliad y swydd yn rheoli ac yn arwain tîm o staff i gynnig cefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth ac ymddygiad heriol.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Fiona Dennison ar 01492 577772 neu
Sonia Booth ar 01492 577604.
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.