Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn rhan o dîm newydd arloesol sy’n darparu cymorth ymyrraeth gynnar i blant a theuluoedd.
Rydym yn chwilio am weithiwr ymyrraeth teulu i weithio fel rhan o’r tîm sy’n darparu ymyriadau uniongyrchol i gynyddu diogelwch, sefydlogrwydd, adeiladu gwydnwch a sgiliau ymdopi. Fel Gweithiwr Ymyrraeth Teuluol byddwch yn grymuso ac yn cefnogi teuluoedd i greu amgylchedd diogel a helpu i leihau risgiau i blant. Byddwch yn gweithio mewn ffordd gydweithredol, gan ddefnyddio dull teulu cyfan i helpu unigolion i osod a chyrraedd eu nodau.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Liz Harrison-Watson, Rheolwr Tim (01492 574605, Liz.harrison@conwy.gov.uk ) Wendy Carpenter 01492 574691, or Sally Howatson on 01492 575146
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu.
Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.
Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.