YSGOL Y CREUDDYN
(The above is an advertisement for an Assistant Headteacher and the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
Ysgol Uwchradd Benodedig Gymraeg 11–18 oed 665 o ddisgyblion
Required by 2025
ASSISTANT HEADTEACHER
(Cyfrifoldeb : Addysgu a Dysgu a Chwricwlwm)
Leadership Pay Scale: L10-14 £59,990 - £66,148 per annum
Hours: Full Time
Mae’r ysgol yn chwilio am unigolyn blaengar, uchelgeisiol, proffesiynol a gweithgar sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol effeithiol ac yn ymroddedig i gynnig yr addysg orau i’r disgyblion, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Edrychwn ymlaen at groesawu Pennaeth Cynorthwyol newydd i gyfoethogi profiadau dysgu pobl ifanc Conwy.
Ffurflen gais a manylion ychwanegol am y swydd i’w cael gan Mrs Bethan Oliver-Jones, Ysgol y Creuddyn, Ffordd Derwen, Bae Penrhyn, Llandudno, LL30 3LB ac i’w dychwelyd i’r ysgol.
Rhif Ffôn: 01492 544344; E-bost: bursar@creuddyn.conwy.sch.uk
DYDDIAD CAU AR GYFER Y SWYDD:
4.00yh Dydd Llun 8fed o Orffennaf 2024
(Bwriedir cynnal cyfweliadau wythnos 15fed o Orffennaf 2024)
Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae’n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi’r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
Mae’r ffurflen hon ar gael yn Gymraeg hefyd