A hoffech chi gael gyrfa sy'n rhoi boddhad a chael gwneud gwahaniaeth i bobl diamddiffyn yn eich ardal leol?
Drwy weithio yn sector gofal Cyngor Conwy, gallwn ni gynnig mwy na swydd ofalu'n unig i chi. Gallwn ni roi'r cyfle i chi gael swydd ystyrlon a phwrpasol gyda chefnogaeth gan dim cyfeillgar a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich llawn botensial.
Mae Gweithwyr Cefnogi'n cael effaith fawr ar fywydau'r rhai y maent yn eu cefnogi. Gallwch ein helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl h'n heddiw.
Rydym yn cefnogi pobl h'n ar draws Sir Conwy i fyw mor annibynnol a phosib' yn eu cartrefi eu hunain, gan roi cymorth iddynt ddysgu a chadw sgiliau sy'n caniatáu iddynt fod yn rhan o'u cymunedau. Mae hynny'n golygu gwrando arnynt, deall yr hyn maent yn ei hoffi a'u cefnogi i benderfynu a chyflawni'r hyn yr hoffent ei gyflawni.
Os ydych chi'n rhannu'r gwerthoedd yma, mae arnom ni eisiau clywed gennych chi!
Unigolion yw ein preswylwyr ac maent yn haeddu cael eu trin felly. Nid oes arnoch angen unrhyw brofiad i ymgeisio gan y byddwch yn cael sesiwn gyflwyno lawn i'ch paratoi ac rydym yn cynnig ystod o fanteision, sy'n cynnwys:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan rai di-Gymraeg, Dysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae angen gallu siarad Saesneg safonol er mwyn cyfathrebu a unigolion.
Mae gennym ni sawl swydd wag ar hyd a lled Sir Conwy. Bydd cyflogau cychwynnol yn dibynnu ar brofiad, gan ddechrau o £11.98 - £12.38 heb unrhyw brofiad blaenorol gyda'r gallu i £12.18 - £12.59 cyfradd sylfaenol fesul awr.
Os ydych chi'n gweithio'n galed ac os oes gennych awydd gwirioneddol i helpu eraill ac am swydd sy'n rhoi boddhad gyda Chyngor Conwy, cysylltwch ag un o'r rheolwyr isod am sgwrs anffurfiol ac am gyfle i gael cyfweliad:
Landudno, Cyffordd Llandudno, Bae Penrhyn, Deganwy, Llanfairfechan, Penmaenmawr - Sophie Gibson - 01492 574655
sophie.gibson@conwy.gov.uk
Llanrwst, Betws-y-coed, Glan Conwy, Dolwyddelan, Maerdy - Julie Clarke - 01492 577955
Julie.Clarke@conwy.gov.uk
Abergele, Bae Cinmel, Tywyn, Llannefydd, Llansannan - Nadine Simpson - 01492 577786
nadine.simpson@conwy.gov.uk
Fae Colwyn, Llandrillo-yn-rhos, Mochdre, Bae Colwyn Uchaf, Llysfaen, Hen Golwyn - Lucinda Villiers 01492 576335
lucinda.villiers@conwy.gov.uk
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
This form is also available in English.