Nodwch os bydd cyfanswm uchel o ymgeiswyr y byddwn yn dod â’r hysbyseb swydd i ben yn gynt.
Lleoliad gwaith: Cartref Gofal Mochdre
Mae cyfle wedi codi yng Nghonwy am rôl barhaol fel Rheolwr Uned Breswyl yn ein cartref gofal newydd ym Mochdre.
A hoffech chi weithio i rymuso plant rydym yn eu cefnogi i ddysgu barn, teimladau a chamau newydd yn yr agweddau pwysicaf o’u bywydau?
Os felly, beth am fod yn rhan o’n gwasanaeth preswyl Plant?
Mae’r cartref newydd pwrpasol ym Mochdre’n darparu gyrfaoedd a phrofiadau heriol a gwerthfawr yn seiliedig ar ein gwerthoedd o weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc i ‘fyw’r bywyd gorau posibl’.
Rydym ni’n gwneud hyn drwy ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol a phrofiad i blant a phobl ifanc sy’n dwyn boddhad lle caiff eu llais ei glywed a’i seilio ar eu hanghenion unigol a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â’r un gwerthoedd â ni ac yn awyddus i recriwtio Rheolwr Uned Breswyl i ymuno â’n tîm.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddylanwadu ar ddatblygiad y gwasanaeth newydd a sefydlu ymarfer sy’n ystyriol o drawma ac yn canolbwyntio ar y plentyn ar gyfer plant sydd wedi cael nifer o brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod. Bydd disgwyl i chi arwain tîm o weithwyr preswyl therapiwtig i sicrhau eu bod yn gallu helpu pobl ifanc i adfer o’u profiadau a datblygu sgiliau a gwytnwch yn eu bywyd fel oedolion.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Wecarewales@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.
Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.