Lleoliad gwaith: Yn y Gymuned
Yr oll sydd ei angen arnoch i gychwyn ar eich gyrfa mewn gwaith cefnogi yw eich rhinweddau naturiol.
Dewch â’ch rhinweddau personol gyda chi ac fe wnawn ni ddarparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch, dewch i weld beth y gallech ei wireddu â gyfra mewn Gofal Cymdeithasol.
Os ydych chi’n chwilio am yrfa ystyrlon, lle gallwch chi gefnogi plant a phobl ifanc i fyw bywydau llawn, ennill sgiliau ar gyfer eu dyfodol a gwneud cysylltiadau ystyrlon bob dydd - efallai mai ymuno â’n gwasanaeth i Blant a Phobl Ifanc ag Anabledd yw’r cam cywir i chi.
Mae bob diwrnod yn wahanol yn y maes gofal cymdeithasol. Mae ein Gwasanaeth Anabledd i Blant a Phobl Ifanc yn cynnig gyrfaoedd a phrofiadau heriol a gwerth chweil, ond sy’n gwneud gwahaniaeth, er mwyn galluogi unigolion ag anableddau i fwynhau’r ansawdd bywyd gorau nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn awyddus i ganfod pobl sy’n rhannu’r uchelgais hon ac yn rhannu ein ffordd ni o weithio - bod yn feiddgar, yn greadigol, yn angerddol ac yn onest ym mhopeth a wnawn.
Gall swydd â ni fel gweithiwr cefnogi gynnig oriau hyblyg sy’n gweddu o gwmpas eich bywyd, felly mae gyrfa mewn gwaith cefnogi yn yrfa amrywiol iawn.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau arnoch i ddechrau arni, does ond angen i chi ddod â’ch gwerthoedd personol ac yna gallwch hyfforddi wrth weithio. Mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa yn ein gwasanaeth, gan fod cyfle i chi ennill cymwysterau, ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol neu ymgymryd â swyddogaethau ar gyfer datblygiad personol.
Rydym yn dymuno penodi unigolion angerddol a brwdfrydig i ymuno â’r tîm wrth i ni dyfu.
Mae datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda’r unigolion rydych yn eu cefnogi yn rhan allweddol o fod yn weithiwr cefnogi gwerthfawr. Felly, mae natur gyfeillgar, a chefnogol, gan edrych ar fywyd mewn modd cadarnhaol, yn hanfodol.
Bod yn angerddol am annog a chefnogi pobl i gyflawni eu gorau yn flaenoriaeth i ni!
Beth sy’n gysylltiedig â’r swydd?
Byddwch yn gallu cynorthwyo plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a’u cefnogi i ddatblygu sgiliau tuag at eu dyfodol mwy hirdymor.
Byddwch yn gallu cynllunio a gweithredu gweithgareddau llawn dychymyg, a fydd hefyd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau.
Byddwch yn gallu deall bod rhai plant yn mynegi eu teimladau trwy eu hymddygiad a bydd gennych ymagwedd sy’n credu yn eich gallu i ddysgu’r plant sut i gyfathrebu mewn ffordd wahanol, felly mae gwaith tîm yn allweddol.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm yn y gymuned neu’r tu mewn a bydd angen i chi allu cymell a chefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn ystod eang o wahanol ddiddordebau a gweithgareddau sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles megis; taith gerdded o gwmpas llyn neu mewn coedwig, padlfyrddio, chwarae yn y parc, nofio, pobi, tynnu lluniau a chrefftau, i enwi dim ond rhai.
Gall dyletswyddau eraill gynnwys cynorthwyo plant a phobl ifanc sy’n methu cwrdd yn llawn â’u hanghenion gofal personol eu hunain a gallai hyn gynnwys codi a symud yn gorfforol.
Fel gweithiwr cefnogi, byddai angen i chi ddangos gallu i fod yn greadigol ac â meddwl agored, gan eich bod yn cynorthwyo pobl i gyflawni eu nodau, yn ogystal â chynorthwyo’r tîm i ddarparu profiad diogel, gofalgar ac addysgol ar gyfer pobl ag anableddau, fel eu bod yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl.
Mae’n rhaid cael gwytnwch yn ein sector gofal. Mae pob un ohonom yn cael dyddiau da a dyddiau gwael, ac mae’n rhaid gallu dangos eich bod yn gallu aros yn ddigynnwrf a chefnogol i weithio gyda ni.
Bydd gofyn i chi weithio rhywfaint o oriau anghymdeithasol megis ar benwythnosau a chyda’r nos, ond byddwn yn gweithio gyda chi fel bod gennych gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.
Byddwch yn gallu mynychu hyfforddiant arbenigol a fydd yn rhoi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer rhoi’r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc fyw bywyd llawn.
Os ydych wedi ystyried hyn fel gyrfa a’ch bod yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Emma Edwards, 07849631358 / 01492 575002, emma.edwards1@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i sgwrsio’n gartrefol gyda chwsmeriaid yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer 3 swydd a dymunol ar gyfer 2 swydd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.