Lleoliad gwaith: Adnoddau Anableddau
Mae’r Tîm Plant ag Anableddau yn cefnogi plant ag anableddau yn eu cartrefi eu hunain neu yn y gymuned.
Byddwch yn cynorthwyo plant â gweithio tuag at sicrhau canlyniadau. Gall hyn gynnwys darganfod gweithgareddau iddynt eu mynychu o fewn eu cymunedau lleol, deall ymddygiadau herio a gweithio tuag at strategaethau cytunedig, dechrau datblygu sgiliau byw’n annibynnol ar gyfer y dyfodol. Cynllunio a darparu gweithgareddau creadigol drwy chwarae a hybu sgiliau i ryngweithio ag eraill.
Mae dyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth na allant fod yn gwbl gyfrifol am eu hanghenion personol eu hunain. Gallai hyn gynnwys codi a chario.
Mae parodrwydd i weithio ar eich menter eich hun, cymryd cyfrifoldeb a rheoli unrhyw heriau mewn modd priodol yn hanfodol, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar bobl ag anableddau.
Oherwydd natur darpariaeth y gwasanaeth bydd gofyn gweithio oriau anghymdeithasol, a thelir yn ychwanegol am hyn.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sheila Chapman, Rheolwr Tim, 01492574245, sheila.chapman@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.