Lleoliad gwaith: Bwthyn y Ddôl a Choed Pella
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol profiadol a brwdfrydig weithio fel rhan o Dîm Bwthyn y Ddôl. Mae’r tîm yn ceisio asesu a chefnogi teuluoedd a phobl ifanc sydd â niwroamrywiaeth, wedi profi trawma a/neu drallod yn ystod eu bywydau.
Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn aelod craidd o’r Tîm Amlddisgyblaethol ac yn ymgymryd ag asesiadau arbenigol amrywiol ac yn darparu ymyraethau therapiwtig i bobl ifanc a’u teuluoedd.
Bydd y Therapydd Galwedigaethol hefyd yn rhoi arweiniad a chefnogaeth i staff Bwthyn y Ddôl ac yn cyfrannu at ddarparu gwell canlyniadau i’r plant a’u teuluoedd.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd gyffrous hon sy’n datblygu ac am gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Nicola Orme 01492 574295 / nicola.orme@conwy.gov.uk
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.