Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dymuno recriwtio Gweithwyr Therapiwtig i Deuluoedd, Therapyddion Galwedigaethol neu Nyrsys Seiciatrig Cymunedol i fod yn rhan o’n tîm Cryfhau Teuluoedd.
Mae hwn yn dîm sefydledig sydd wedi ymrwymo i ddarparu ymyraethau yn seiliedig ar dystiolaeth i deuluoedd a phobl ifanc mewn argyfwng. Mae’n gyfle i weithio’n ddwys gyda theuluoedd yn eu cefnogi i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda phobl ifanc a’u teuluoedd i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu clywed a sicrhau bod pobl ifanc a’u teuluoedd yn adnabod eu cryfderau a’n bod yn eu cefnogi i adeiladu ar eu cryfderau.
Bydd y Gweithwyr Therapiwtig i Deuluoedd yn rhan o dîm amlddisgyblaeth, gan weithio’n agos gyda Gweithwyr Cymdeithasol o’r tîm amddiffyn plant Conwy, Gweithwyr Canolfan i Deuluoedd a CAMHS gan ddarparu ystod o ymyriadau Therapiwtig i wella eu sefyllfaoedd.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm sy’n ffocysu ar deuluoedd ac sy’n credu bod teuluoedd a phobl ifanc gyda chryfderau i newid eu bywydau. Os ydych yn credu bod gennych y sgiliau, personoliaeth a’r ymrwymiad i weithio’r ffordd hyn, dewch i ymuno â ni.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Sally Howatson, Teitl Swydd (01492 575146 / sally.howatson@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.